IN THE COURT OF PROTECTION AT CARDIFF
Cardiff Civil and Family Justice Centre
2 Park Street
Cardiff
CF10 1ET
BEFORE:
HER HONOUR JUDGE EDWARDS
BETWEEN:
| TIRE (by her Litigation Friend LK) | APPLICANT |
| - and - |
|
| CARMARTHENSHIRE COUNTY COUNCIL | RESPONDENT |
Legal Representation
Nia Gowman (Counsel of 30 Park Place instructed by CJCH Solicitors)on behalf of the Applicant
Lewis Harrison (Counsel of 20 Park Place) on behalf of theFirst Respondent Local Authority
Other Parties Present and their status
None known
Judgment
Judgment date: 2 December 2024
(start and end times cannot be noted due to audio format)
Reporting Restrictions Applied: Yes
“WARNING: reporting restrictions may apply to the contents transcribed in this document, particularly if the case concerned a sexual offence or involved a child. Reporting restrictions prohibit the publication of the applicable information to the public or any section of the public, in writing, in a broadcast or by means of the internet, including social media. Anyone who receives a copy of this transcript is responsible in law for making sure that applicable restrictions are not breached. A person who breaches a reporting restriction is liable to a fine and/or imprisonment. For guidance on whether reporting restrictions apply, and to what information, ask at the court office or take legal advice.”
“This Transcript is Crown Copyright. It may not be reproduced in whole or in part other than in accordance with relevant licence or with the express consent of the Authority. All rights are reserved.”
Number of folios in transcript | 29 |
Number of words in transcript | 2,079 |
Rhif Achos: 14159580 |
Ei Hanrhydedd y Barnwr Edwards:
Mae'r achos yma amdan TIRE. O fewn y dyfarniad, mi fyddaf yn cyfeirio ati fel TE. Mae TE yn cael ei chynrychioli drwy ei ffrind ymgyfreitha (neu litigationfriend) LK, sydd wedi penodi Miss Nia Gowman fel eu bar gyfreithwraig. Ei chyfreithiwr yw Hattie Dennedy. Mae'r awdurdod lleol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, wedi’w gynrychioli gan Mr Lewis Harrison sy’n far gyfreithiwr. Mae'r gweithwyr cymdeithasol, Kirsty Ryan a Jenifer Gilmore, wedi bod yn bresennol ynghyd âr rheolwr i’r tîm, Rebecca Isaac. Mae'r achos wedi dod o flaen y llys gan fod TE wedi cael ei gosod mewn cartref gofal, sef (cartref gofal) ger (tref), ac mae hi'n anfodlon gyda’r sefyllfa. I'w roi yn syml, tydy TE ddim eisiau bod yno, ac mae'n awyddus iawn i fynd yn ôl i fyw yn ei chartref, sef (tŷ) ac i fod yn ran o'r gymuned yn ei hardal frodorol, yn ei chynefin, (pentref). Mae'r awdurdod lleol wedi defnyddio'r drefn awdurdodaeth safonol i amddifad rhyddid er mwyn cadw TE yn saff yn y cyfamser. Gan fod TE yn gwrthwynebu y trefniadau yma, mae'r achos wedi dod ger bron y llys, am benderfyniad o dan y Ddeddf Capasiti Meddyliol 2005.
Cefndir.
O ran y cefndir i’r achos, mae TE nawr yn 85 mlwydd oed ac wedi byw yn ei chynefin yn (pentref) ers amser maith. Cyn iddi ymddeol, mi roedd yn athrawes yn (ysgol), bellach (ysgol), ac mi wnaeth ysbrydoli cenhedlaeth ar ôl chenhedlaeth o gerddorion drwy ei gwaith dilys a dwys yn yr adran gerddoriaeth. Mae rhai o'i chyn ddisgyblion nawr yn gweithio yn y cartref gofal ac wedi dweud wrthaf faint o barch sydd tuag at eu cyn athrawes. Mi roedd hefyd yn steddfotwr brwd, yn cystadlu gyda corau, yn beirniadu ac yn annog disgyblion i gystadlu fel unigolion.
Ers iddi ymddeol, mi gafodd fwy o amser i gefnogi ei chapel yn (pentref), sydd yn ran pwysig o'i bywyd cymdeithasol. Mi roedd hi ar unrhyw gyfrif yn ddynes alluog, deallus ac yn hynod o annibynnol. Yn anffodus, yn ystod yr haf yn 2022, mi ddisgynnodd TE tra roedd hi gartref. Ar ôl ei thriniaeth yn yr ysbyty, mi gafodd ddychwelyd i (tŷ), ond mi roedd pethau yn anodd iawn. Mae'n anodd i TE gydnabod pa mor niweidiol oedd y sefyllfa achos mi roedd hi'n gymysglyd ac yn ddryslyd. Mae hynny'n hollol arferol, ond tydy o ddim yn ei chynorthwyo hi wrth iddi geisio deall pam ei bod hi nawr mewn cartref preswyl.
Ar ôl asesiad, mi benderfynodd yr awdurdod lleol bod diffyg capasiti ar TE i wneud penderfyniadau yn ymwneud a ble ddylai hi fyw a sut dylid trefnu gofal. Yn Chwefror 2023, ar ôl cysidro buddiannau lles (neu welfare interests) TE, mi wnaeth yr awdurdod lleol gytuno gallai TE ddychwelyd gartref gyda pecyn gofal addas. Mi roedd hyn yn rhoi blaenoriaeth i ddymuniadau TE, ac roedd yn ffordd o'i galluogi i reoli ei bywyd ei hun. Y nod oedd i roi rhyddid ac annibyniaeth iddi. Yn anffodus, erbyn mis Mai 2023, roedd y trefniadau wedi'w dymchwel. Mi roedd yna anhawsterau, sydd wedi'w cofnodi yn y papurau. Dwi'n derbyn y tystiolaeth, er fy mod yn deall bod TE ei hun yn anghydweld gyda rhai o'r ffeithiau.
Mae TE yn cydnabod nad oedd y pecyn gofal yn lwyddiant, hyd yn oed os ydy'n anghydweld gyda'r rhesymau am hynny. Rwy'n derbyn tystiolaeth Kirsty Ryan bod TE wedi cyfaddef nag oedd hi'n gallu ymdopi tra'n byw adref. Ar y 25ain o Fai 2023, mi ddychwelodd TE i fyw yn y cartref preswyl yn (cartref gofal).
Y ceisiadau ger bron y llys.
Ar ddechrau'r achos, mi roedd cais ar ran TE i'r llys gwarchodaeth ail ystyried os oedd ganddi'r capasiti i wneud y penderfyniadau yma hi ei hun. Os oes ganddi gapasiti, does dim awdurdodaeth gan y llys yn y mater.
Mi roeddwn i'n bryderus am y dystiolaeth gan fod prinder a diffyg arbenigwyr seiciatrig sy'n gallu'r Gymraeg. I unigolyn fel TE sy'n ddwyieithog ac yn hynod o fedrus yn y ddwy iaith, mae rhai elfennau yn gallu mynd ar goll os ydych chi'n cyfathrebu heb ddefnyddio eich mamiaith. Mae hynna'n fwy tebygol mewn sefyllfa ble mae pobl yn heneiddio neu ar y ffin o golli capasiti. Oherwydd y pryderon yma, rwyf wedi craffu yn fanwl iawn ar y dystiolaeth sy'n ymwneud â capasiti. Rwyf hefyd wedi ymweld yn bersonolgyda TE yn ei chartref preswyl.
Bellach, mae'r rhai sy'n cynrychioli TE yn derbyn y tystiolaeth sy’n ymwneud gyda capasiti, a does dim sialens i'r ffaith bod diffyg capasiti yn yr achos hwn. Nid yw'r sefyllfa yn debyg o newid er y gwell, yn anffodus, gan fod y cyflwr, sef dementia fasciwlar, yn un sy'n dwyshau ac yn gwaethygu gydag amser. Mae'r meddyginiaeth yn help, ac rwy'n falch clywed bod TE yn cymryd hwn yn rheolaidd. Ar hyn o bryd, mae iechyd meddwl TE yn sefydlog, ond mae'r sefyllfa yn gyffredinol yn achosi iselder iddi.
Y gyfraith.
Y cais sydd i'w ystyried gan y llys ydy beth fyddai'r trefniadau gorau er budd TE. Fel rhan o hynny, mae'n rhaid i mi ystyried beth fyddai TE ei eisiau. Sut ydy'r ffordd gorau i ni sicrhau lles a llesiant TE heb amharu yn ormodol ar ei rhyddid? Mae'r cais yn disgyn o dan Adran 21(a) o'r Ddeddf. Mi fydd crynodeb o'r gyfraith a'r egwyddorion sy'n ymwneud gyda'r cais yn cael eu atodi i'r dyfarniad yn Gymraeg. Dydw i ddim am ei ddatgan ar lafar am resymau, gobeithio, fydd yn glir i TE a'i chyfreithwyr; mi fydde’n ddryslyd iddi petawn i’n gwneud.Rwy’n cadw’r egwyddorion a'r gyfraith yn flaenllaw yn ystod fy ystyriaeth o'r cais.
Rwyf hefyd wedi cysidro'r achos o AJ (by her litigation friend, the OS) v. a local authority 2015 COP LR167 a canllawiau Mr Ustus Baker. Dwi'n atgoffa fy hun bod rhaid cymryd gofal pan mae unigolyn yn mynd mewn i gartref gofal ar frys neu dros dro ar ôl codwm yn y cartref, er enghraifft. Mae'n rhaid parchu hawliau Erthygl 5 yr unigolyn yn y sefyllfa yna. Rwyf hefyd wedi cysidro ymddygiad TE o fewn y cartref yn (cartref gofal) yn ofalus iawn, fel sy'n cael ei argymell yn paragraff 86, sub-paragraff 3 o'r dyfarniad.
Y tystiolaeth.
O ran y dystiolaeth ysgrifenedig, rwyf wedi darllen yr holl ddogfennau, ond yn enwedig:
y ddogfen sy'n gosod allan y ffeithiau A(1) - (8).
Adroddiad Dr Grey a'r adroddiad atodiadol,
datganiad mwyaf diweddar Kirsty Ryan o'r 7fed o Dachwedd, gan gynnwys yr asesiadau, a
datganiad LK ar ran TE.
Mae'r tystiolaeth yn gefnogol iawn o'r cynllyn y dylai TE barhau i fyw yn (cartref preswyl). I'w osod yn erbyn hyn, mae TE yn bendant ei bod eisiau dychwelyd i'w chartref. Rwy'n derbyn nad oes gan TE y capasiti i gymryd penderfyniadau ynglŷn â'i chartref, y trefniadau gofal a chymorth, ac materion ariannol ac eiddo.
Mae ganddi ddementia fasciwlar, a 'neith ei chyflwr ddim gwella, m’ond gwaethygu. O ran anghenion TE, a beth fyddai orau iddi, does dim sialens i'r tystiolaeth ar ran Gowman. Mae Mr LK yn ymwybodol iawn fod TE yn benderfynol o ddychwelyd gartref, felly mae'n gofyn i'r llys wneud y penderfyniad.
Ar y 12fed o Ionawr, mi gefais y bleser enfawr o gael ymweld gyda TE yn ei chartref gofal. Mi gafodd y cyfweliad ei hwyluso gan Miss Amy Roberts Rees, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddi. Ar adegau, rwy'n tybio mai TE oedd yn fy nghyfweld i! Mi roedd ei gallu i gyfathrebu yn drawiadol iawn.Mae hi'n berson rhagorol. Mi gawson ni sgwrs am nifer o bethau, gan gynnwys ei chath, (cath). Mae nodyn llawn o'r cyfarfod yn y bwndel.
Gan fod TE yn ysu am gael dychwelyd gartref, mi wnaeth ei chyfreithwyr a'r awdurdod lleol nifer o ymholiadau. Yn anffodus, mae cartref TE wedi dirywio, ac mae angen ei atgyweirio mewn sawl agwedd. Mi fyddai hi'n bosib cyllido hyn, ond mi fyddai'r effaith ar adnoddau TE yn cyfyngu ei gallu i aros adref i gyfnod o rhyw 18 mis. Hefyd, mi fyddai 'na oedi mawr cyn fyddai hi'n bosib iddi symud adre. Yn ogystal, mi fyddai hi'n anodd i TE ddeall pam fod y gwaith yn hanfodol ac i ymdopi gyda ei chartref ar ôl i'r gwaith gael ei gyflawni.
Serch hynny oll, mi fyddai cael mynd adref yn gwella'r iselder mae TE yn ei deimlo, ac mi fyddai hynny'n bwysig i'w hiechyd meddwl ac i ansawdd ei bywyd yn gyffredinol. Ond rwyf hefyd yn derbyn y byddai'r iselder yn gallu dychwelyd os nad ydy'r tŷ yn ei siwtio neu os oes trafferthion pellach gyda'r pecyn gofal neu gyda ei hiechyd corfforol neu gallu meddyliol. Mae'r awdurdod lleol wedi pwyso a mesur yn ofalus iawn yn yr achos yma, a gallai ddim gweld unrhyw wall yn eu rhesymeg. Yn anffodus, mae'r holl weddau personol sy'n gwneud TE yn unigolyn mor unigryw, annibynnol a galluog hefyd yn debygol o greu anhawsterau iddi pe bai gofyn iddi gydweithio gyda'r awdurdod lleol er mwyn creu pecyn gofal yn ei chartref yn (tŷ).
Mi fyddai parhau gyda atgyweirio'r tŷ yn creu gofid a pryder iddi. Mi fyddai hi'n ddrwgdybus o unrhyw wariant o'i hadnoddau, ac mi fyddai hi'n anhapus os nad oedd ganddi gyfrifoldeb personol dros y gwariant. Mae nawr angen gofal ar TE bob awr o'r dydd a'r nos, rownd y cloc. Eto, dwi'n deall a dwi'n derbyn nad ydy TE yn deall nac yn cytuno gyda hyn.
Y Penderfyniad.
Rwy'n derbyn y ffordd mae Miss Ryan wedi pwyso a mesur yr holl opsiynau, ac rwy'n cydweld y dylai TE nawr aros yn (cartref gofal). Dwi'n deall y bydd hyn yn siom enfawr iddi, ond rwyf hefyd yn gobeithio y bydd hi'n dod i sylweddoli nad ydy'r cartref mae hi'n hiraethu amdano yn bodoli bellach.
Mi fydd rhaid i TE ymgartrefu yn (cartref preswyl), a mi fydd gwneud hynny yn rhoi ansawdd bywyd ac annibyniaeth i TE na fyddai'n bosib iddi tu allan i gartref gofal. Rwy'n wir obeithiol allith TE setlo nawr yn (cartref gofal), gan wybod nad oes opsiwn iddi ddychwelyd adre.
Dyna ddiwedd y dyfarniad. Rwyf hefyd yn estynnu'r awdurdodaeth safonol, a gofyn i'r bar gyfreithwyr i ddrafftio’r gorchymyn terfynol. Diolch.
Mae’r trawsgrifiad yma wedi’w gytuno gan y Barnwr. The Transcription Agency hereby certifies that the above is an accurate and complete recording of the proceedings or part thereof. |
The Transcription Agency, 24-28 High Street, Hythe, Kent, CT21 5AT Tel: 01303 230038 Email: court@thetranscriptionagency.com ANGEN ei gyfieithu. |
ATODIAD A:
FFRAMWAITH CYFREITHIOL:
CRYNODEB
Mae'r atodiad yma yn cynnwys darpariaethau deddfwriaethol sydd wedi'u cyfieithu o'r deddfwriaeth Saesneg, y ‘Mental Capacity Act 2005’, gan gynrychiolwyr cyfreithiol y partion. Nid yw’n gyfieithiad Cymraeg sydd wedi’w safoni yn swyddogol.
Galluedd
Adran 1 Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (‘DGM 2005’) sydd yn nodi’r egwyddorion arweiniol sy’n sail i ethos y DGM 2005. Mae Adran 1 yn darparu:
Rhaid cymryd bod gan berson alluedd oni sefydlir nad oes ganddo alluedd.
Nid yw person i’w drin fel rhywun nad yw’n gallu gwneud penderfyniad oni bai bod pob cam ymarferol wedi’i gymryd i’w helpu i wneud hynny heb lwyddiant.
Ni ddylid trin person fel rhywun na all wneud penderfyniad dim ond oherwydd ei fod yn gwneud penderfyniad annoeth.
Mae adran 2(1) DGM 2005 yn nodi diffiniad o berson sydd heb alluedd fel y ganlyn:
...nad oes gan berson alluedd mewn perthynas â mater os nad yw, ar yr adeg berthnasol, yn gallu gwneud penderfyniad drosto’i hun mewn perthynas â’r mater oherwydd nam ar y meddwl neu’r ymennydd, neu aflonyddwch yng ngweithrediad y meddwl neu’r ymennydd.
Mae adran 3(1) DGM 2005 yn darparu:
...bernir nad yw person yn gallu gwneud penderfyniad drosto’i hun os nad yw’n gallu:
deall y wybodaeth sy'n berthnasol i'r penderfyniad;
cofio’r wybodaeth;
defnyddio neu pwyso a mesur y wybodaeth fel rhan o'r broses o wneud y penderfyniad; neu
cyfleu ei benderfyniad (boed hynny drwy siarad, defnyddio iaith arwyddion neu unrhyw ddull arall).
Mae Côd Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn ailadrodd y dylid rhagdybio bod gan berson alluedd oni bai bod tystiolaeth bod diffyg galluedd(paragraff 2.131 – 2.134). Dim ond os oes tystiolaeth digonol nad yw’r person yn gallu gwneud y penderfyniad dan sylw y gellir gwrthbrofi’r rhagdybiaeth o alluedd.
Mae adran 2(4) of the DGM 2005 yn ei gwneud yn glir bod rhaid penderfynu unrhyw gwestiwn am alluedd person trwy bwyso a mesur y tebygolrwydd.
Budd Gorau
Mae’r llys yn ystyriedy fframwaith cyfreithiol, fel y nodir isod:
Gwneir y cais i’r Llys Gwarchod yn unol ag adran 21A DGM 2005 ac mae’n gyfystyr â her i’r Awdurdodiad Safonol a ganiateir yn unol ag Atodlen A1 DGM 2005.
Mae pwerau’r Llys mewn perthynas ag Atodlen A1 DGM 2005 wedi’u nodi yn adran 21A(2) DGM 2005, sef
Pan fo awdurdodiad safonol wedi’i roi, caiff y llys benderfynu ar unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r materion isod -
a yw’r person perthnasol yn bodloni un neu ragor o’r gofynion cymhwyso;
y cyfnod y mae’r awdurdodiad safonol i fod mewn grym;
at ba ddiben y rhoddir yr awdurdodiad safonol; ac
yr amodau y rhoddir yr awdurdodiad safonol yn ddarostyngedig iddynt.
Mae adran 21A(3) DGM 2005 yn nodi:
Os bydd y llys yn dyfarnu unrhyw gwestiwn o dan is-adran (2), caiff y llys wneud gorchymyn i –
amrywio neu derfynu'r awdurdodiad safonol, neu
cyfarwyddo’r corff goruchwylio i amrywio neu derfynu’r awdurdodiad safonol.
Unwaith y gwneir cais yn unol ag adran 21A DGM 2005, mae gan y Llys bwerau eang i wneud datganiadau yn unol ag adran 15 DGM 2005 ynghylch ag oes gan P ddiffyg galluedd i wneud unrhyw benderfyniadau, ac unwaith y gwneir datganiad o’r fath, mae gan y llys bwerau eang yn unol ag adran 16 DGM 2005 i wneud penderfyniadau ar ran P ynghylch ei les personol neu eiddo a materion personol (gweler CC v. KK [2012] EWHC 2136 (COP); PH v. A Local Authority [2011] EWHC (Fam)).
Gall y llys wneud gorchmynion a/neu wneud penderfyniad neu benderfyniadau ar ran P mewn perthynas â lles personol P (adran 16 DGM 2005).
Caiff person amddifadu P o’i ryddid os yw’r person hwnnw, drwy wneud hynny, yn rhoi effaith i benderfyniad perthnasol y llys (adran 4A DGM 2005).
Wrth wneud penderfyniadau ar ran P mae rhwymedigaeth i weithredu er eu budd gorau (adram 1(5) DGM 2005).
Wrth benderfynu beth sydd er y budd gorau i berson, rhaid ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol, dymuniadau a theimladau’r person yn y gorffennol a’r presennol, eu credoau a’r gwerthoedd a fyddai’n debygol o ddylanwadu ar eu penderfyniad pe bai ganddo alluedd, ac i’r ffactorau eraill y byddent yn debygol o’u hystyried pe gallent wneud hynny (adran 4(6) DGM 2005).
Rhaid ystyried barn unrhyw un sy'n ymwneud â gofalu am y person neu sydd â diddordeb yn ei les (adran 4(7) DGM 2005)
Yr achos arweiniol o ran cymhwyso’r meini prawf ar gyfer budd gorau yw penderfyniad y Goruchaf Lys yn Aintree University Hospitals NHS Foundation Trust v James and others [2013] UKSC 67. Ym mharagraph [23] o Aintree (supra), nododd y Farwnes Hale fod y Ddeddf yn rhoi arweiniad cyfyngedig ar y budd gorau a bod pob achos yn wahanol [36]. Ym mharagraph [39] nododd:
[39] “The most that can be said, therefore, is that in considering the best interests of this particular patient at this particular time, decision-makers must look at his welfare in the widest sense, not just medical but social and psychological ……. they must try and put themselves in the place of the individual patient and ask what his attitude to the treatment is or would be likely to be; and they must consult others who are looking after him or interested in his welfare, in particular for their view of what his attitude would be”
[45] “Finally, insofar as Sir Alan Ward and Arden LJ were suggesting that the test of the patient's wishes and feelings was an objective one, what the reasonable patient would think, again I respectfully disagree. The purpose of the best interests test is to consider matters from the patient's point of view. That is not to say that his wishes must prevail, any more than those of a fully capable patient must prevail. We cannot always have what we want. Nor will it always be possible to ascertain what an incapable patient's wishes are. Even if it is possible to determine what his views were in the past, they might well have changed in the light of the stresses and strains of his current predicament. In this case, the highest it could be put was, as counsel had agreed, that "It was likely that Mr James would want treatment up to the point where it became hopeless". But insofar as it is possible to ascertain the patient's wishes and feelings, his beliefs and values or the things which were important to him, it is those which should be taken into account because they are a component in making the choice which is right for him as an individual human being”.
Yn ITW v Z, M & Various Charities [2009] EWHC 2525 (Fam) nododd Munby J (fel yr oedd bryd hynny) nifer o nodweddion ym mharagraph 3 sydd o bwys wrth asesu dymuniadau a theimladau P; gan gynnwys i) gradd anallu P; ii) cryfder a chysondeb y safbwyntiau a fynegir gan P; iii) yr effaith bosibl ar P o wybod nad yw ei dymuniadau a'i theimladau yn cael eu gweithredu; iv) i ba raddau y mae dymuniadau a theimladau P yn rhesymol, yn synhwyrol, yn gyfrifol ac yn bragmataidd y gellir eu gweithredu’n synhwyrol o dan yr amgylchiadau penodol, neu i ba raddau nad ydynt; ac v) i ba raddau y gellir cynnwys yn briodol ddymuniadau a theimladau P, os rhoddir effaith iddynt, yn asesiad cyffredinol y llys o'r hyn sydd er y budd gorau iddi..
Nid oes unrhyw ragdybiaeth o blaid bywyd teuluol yn y dadansoddiad budd gorau a dim ond ar ôl cymhwyso rhestr wirio adran 4 y dylai barnwr ofyn a yw'r casgliadau yn gyfystyr â thorri hawliau Erthygl 8 ac os felly, a yw hyn yn angenrheidiol ac yn gymesur. Ni ddylid ychwanegu man cychwyn ychwanegol at yr ymarfer, ac ni fydd bywyd teuluol bob amser yn ‘trechu’ bywyd preifat (gweler K v LBX and Others [2012] EWCA Civ 79).
Mae awdurdodaeth y Llys Gwarchod wedi’i chyfyngu i benderfyniad na all person ei wneud drosto’i hun ac nid oes gan y llys fwy o bŵer i orfodi eraill i wneud yr hyn sydd orau nag y byddai gan P ei hun. Mae hyn yn golygu, yn union fel P, mai dim ond rhwng yr opsiynau sydd ar gael y gall y llys ddewis (gweler N v ACCG and Others [2017] UKSC 22)) a’i fod wedi’i gyfyngu i raddau helaeth i’r opsiwn(opsiynau) y mae’r awdurdodau statudol wedi’u cyflwyno (gweler Re MN (Adult) [2015] EWCA Civ 411).
Nid yw pobl â galluedd meddyliol yn disgwyl atebion perffaith mewn bywyd, ac mae’r gofyniad wedi’w osod allan yn adran 1(5) DGM 2005. (Cases A & B (gweler Court of Protection: Delay and Costs) [2014] EWCOP 48).
Mae gan y Llys, mewn cysylltiad â’i awdurdodaeth, yr un pwerau, hawliau, breintiau ac awdurdod â’r Uchel Lys (adran 47 DGM 2005).